Web Site News
Keep informed of new events, stories and news items as they are posted on the Moelyci Environmental Centre web site!

Name:

Email:

Subscribe Unsubscribe


Time


 
 
 

CARTREF arrow WHERE WE ARE


Sut i gyrraedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci   Printio    E-bost  

Sut i gyrraedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci

Mae Canolfan Amgylcheddol Moelyci gerllaw pentrefi Tregarth a Bethesda (y naill ryw bum munud a’r llall ryw ugain munud i ffwrdd ar droed) a heb fod yn bell o Lyn Ogwen, y Carneddau, Tryfan a’r Glyderau. Mae’r cysylltiadau â threfi cyfagos yn dda: mae bysiau lleol yn rhedeg yn ddyddiol ac mae’r llwybr beicio sy’n cysylltu Bangor a Thregarth yn croesi’r safle.



View map of LL57 4BB on Multimap.com
Get directions to or from LL57 4BB

Beicio

http://sustrans.org.uk/sustrans-near-you/wales/easy-rides-in-wales/lon-las-ogwen

Mae Moelyci ar lwybr beicio hardd Lôn Las Ogwen (Llwybr rhif 82). Mae’n cymryd ryw 30 - 45 munud i feicio o Fangor i Foelyci. Gallwch weld y daith hon drwy ddilyn y cyswllt i wefan Sustrans. Bydd mynedfa ‘Moelyci’ yn dod â chi at lwybr treftadaeth Moelyci wrth waelod y fferm, ger y rhandiroedd cymunedol. Os trowch i’r dde yn y fan honno fe ddewch at bolidwneli’r Ardd Fasnachol a man cychwyn y llwybr sy’n arwain at y ffermdy. Mwynhewch y pedlo!

 

 

Cyfarwyddiadau o’r A55 o gyfeiriad Caer

Gadewch yr A55 wrth Gyffordd 11 i gyfeiriad Betws y Coed a Bangor. Ar ben y ffordd ymadael, trowch i’r chwith i gyfeiriad Bethesda ac yna symudwch i’r lôn dde er mwyn troi i’r dde wrth y gylchfan fechan. Wrth ymuno â’r A4366 fe welwch Travelodge ar yr ochr dde. Dilynwch yr A4366 am ryw dri chwarter milltir hyd nes y gwelwch arwydd Tregarth (B4409). Trowch i’r chwith a dilynwch y lôn am ryw 500 llath. Ar yr ochr dde fe welwch yr arwydd Moelyci (llechen fawr). Trowch i’r dde drwy’r gatiau. Mae lle i barcio gerllaw’r gatiau ac mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio ychydig ymhellach draw. Wrth i chi ddilyn y llwybr bydd y polidwnnelau ar yr ochr chwith a ffermdy Moelyci ychydig ymhellach draw ar y chwith.

 

 

Cyfarwyddiadau o’r A5

Dilynwch yr A5 drwy Fethesda a thros bont Halfway hyd nes cyrraedd cylchfan fechan gerllaw’r A55. Trowch i’r chwith wrth y gylchfan i ymuno â’r A4366. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir uchod.

 

Cyfarwyddiadau o Ynys Môn

Gadewch yr A55 wrth Gyffordd 11 i gyfeiriad Betws y Coed a Bangor. Ar ben y ffordd ymadael trowch i’r dde wrth y gylchfan i ymuno â'r A5 i gyfeiriad Bethesda. Yn union wedi i chi droi i gyfeiriad Bethesda symudwch i’r lôn dde er mwyn troi i’r dde wrth y gylchfan fechan i ymuno â’r A4366. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir uchod.

 

Cyfarwyddiadau o Gaernarfon

Naill ai dilynwch y cyfarwyddiadau o’r A55 neu teithiwch i gyfeiriad Tregarth ar yr A4366 drwy bentref Bethel. Cadwch at yr A4366 ar y gylchfan wrth ystafelloedd te Tŷ Mawr a dilynwch y ffordd hyd nes y gwelwch arwydd Tregarth. Trowch i’r dde i ymuno â’r B4409, ac o fewn tua 500 llath fe welwch arwydd Moelyci (llechen fawr) ar yr ochr dde. Trowch i’r dde drwy’r gatiau.


 
 

 
English | Cymraeg

Monday, 06 September 2010


Support Moelyci
Support Moelyci in making a donation:

Most Read
GWYBODAETH AM Y FFERM
Cywaithiau
Sut i gyrraedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci
Geological Wealth
Bioamrywiaeth

Archive
January, 2010
December, 2009
November, 2009
October, 2009
July, 2009
June, 2009
April, 2009
February, 2009
January, 2009
December, 2008

Hit Counter
501745 Ymwelwyr

Who's Online
Mae gennym2 o westeion ar-lein