Web Site News
Keep informed of new events, stories and news items as they are posted on the Moelyci Environmental Centre web site!

Name:

Email:

Subscribe Unsubscribe


Time


 
 
 

CARTREF


Gwaith cadwraeth ar fynydd Moelyci   Printio    E-bost  

Gwaith cadwraeth ar fynydd Moelyci

Ebrill 2009

John Harold - Swyddog Cadwraeth - Canolfan Amgylcheddol Moelyci

 

 

Bydd llawer ohonoch wedi sylwi fod gwaith wedi dechrau ar gam nesaf y dasg o ddod â chynefinoedd rhostir mynydd Moelyci i gyflwr ffafriol.

 

Rydym yn falch fod cefnogaeth 'Black and Veatch environmental consultants' wedi ein galluogi i alw ar gontractwr sy'n arbenigo mewn cadwraeth i ymgymryd â'r gwaith o dorri'r llystyfiant ar y rhostir ble mae eithin mân, Ulex gallii, wedi bod yn cymryd drosodd, yn bennaf ar lethrau deheuol a gorllewinol y mynydd.

 

I reoli'r eithin mân, a'i rwystro rhag trechu'r grug a'r llus, mae'n rhaid i ni dorri'r llystyfiant i roi cyfle i'r grug ddal yr eithin, ac yna defnyddio'r tir sydd wedi'i dorri ar gyfer pori.

 

 

 

Rydym yn gweithio â phorwyr lleol i sicrhau fod gennym dda byw sy'n addas ar gyfer y mynydd - mae rhai o ferlod y Carneddau bellach ar y safle - anifeiliaid gwydn sy'n ffynnu yn yr amodau hyn.

 

Mae Moelyci'n cyd-weithio'n agos â staff lleol a swyddog maes Cyngor Cefn Gwlad Cymru i sicrhau adferiad parhaus y rhostir ucheldirol arbennig hwn yn dilyn tân trychinebus 2003. Mae dynodiad Moelyci fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig yn cydnabod pwysigrwydd cynefinoedd a bywyd gwyllt y mynydd.

 

Yn enghraifft dda o'i fath, mae'n rhostir ni'n cynnal rhywogaethau carismatig o fywyd gwyllt: mae'r rugiar goch, yr ehedydd, clochdar y garreg, crec yr eithin, pibydd y waun, y llinos, a'r gog yn bridio ar y mynydd. Y rhywogaeth brinnaf a geir ar y mynydd yw'r gwyfyn Ton Gwynedd, Idaea contiguaria brittaniae. Mae'r gwyfyn bychan swynol hwn yn endemig i rostir ucheldirol yng ngogledd orllewin Cymru, ble y ceir cofnod ohono mewn rhyw ddwsin o safleoedd yn unig - mynydd Moelyci yw un o gadarnleoedd y rhywogaeth hon.

 

Bwriad ein rhaglen reoli yw cynnal yr holl rywogaethau hyn drwy greu amodau addas ar gyfer rhostir cytbwys sy'n cynnwys grug, grug y mêl, llus a rhywogaethau nodweddiadol eraill, ac iddo strwythur o oedrannau gwahanol. Bydd y clytwaith o lystyfiant byr a thal hefyd yn lleihau'r posibilrwydd y bydd tanau gwyllt trychinebus yn digwydd eto.

 

 

Mae'r mynydd yn werthfawr i bobl leol, ac fe'i defnyddir ar gyfer cerdded, rhedeg, cael picnic, pigo llus, gwylio adar ac amrywiol weithgareddau tawel eraill. Gobeithiwn y bydd gwaith ein staff a'n gwirfoddolwyr, gyda chefnogaeth ein partneriaid, yn sicrhau fod y mynydd yn parhau i fod yn hafan i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phobl.


 
 

 
English | Cymraeg

Monday, 06 September 2010


Support Moelyci
Support Moelyci in making a donation:

Most Read
GWYBODAETH AM Y FFERM
Cywaithiau
Sut i gyrraedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci
Geological Wealth
Bioamrywiaeth

Archive
January, 2010
December, 2009
November, 2009
October, 2009
July, 2009
June, 2009
April, 2009
February, 2009
January, 2009
December, 2008

Hit Counter
501745 Ymwelwyr

Who's Online
Mae gennym2 o westeion ar-lein