Web Site News
Keep informed of new events, stories and news items as they are posted on the Moelyci Environmental Centre web site!

Name:

Email:

Subscribe Unsubscribe


Time


 
 
 

CARTREF


Category Archives
Digwyddiadau, gwirfoddoli a chyrsiau 2009 : Medi hyd Rhagfyr  
Ysgrifennwyd gan Web Admin  
Wednesday, 03 June 2009

Dyddiadur digwyddiadau

Dyddiad

Cwrs

5-6 Tach

Rheoli cynefin ar gyfer adar tir fferm

7 Tach

Cynnal a chadw offer

8 Tach

Gwneud bag ffelt

12-13 Tach

Arolwg cynefin Cam 1

14 Tach

Atgyweirio ac adfer offer

21-22 Tach

Cyflwyniad i fasgedwaith

28-29 Tach

Gwneud basged ar gyfer coed tân

3-4 Rhagfyr

Arolwg cynefin Cam 1

5-6 Rhagfyr

Coedlannu a phlygu gwrychoedd

13 Rhagfyr

Ffair Aeaf

Cynnwys
Dyddiadur Digwyddiadau
Gwirfoddoli
Digwyddiadau
Cyrsiau Cadwraeth: Ecolegol
Ymarferol
Casglu Data

Cyrsiau Garddio a Cadw Gwenyn ac Offer

Cyrsiau Crefft
Cyrsiau Basgedwaith

Cyfleoedd i Wirfoddoli ym Moelyci!

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu ar un o'r dyddiau gwirfoddoli neu os ydych yn gallu helpu gyda thasgau gweinyddol megis cynhaliaeth TG, trefnu digwyddiadau neu gyfieithu testunau byr, cysylltwch â ni!

Dyddiau Gwirfoddoli - Dewch â hen ddillad cynnes, dillad dal dwr, esgidiau mawr neu welingtons, a phecyn bwyd. Te a bisgedi ar gael.

 

Pob Dydd Mawrth(9 - 4.30) a Dydd Iau(10- 4) – Gwirfoddoli compost

Dewch i helpu malu, hidlo a bagio, ac i wneud tasgau eraill sy'n ymwneud â'r prosiect compostio gwastraff gwyrdd. Dewch draw am hanner diwrnod neu am ddiwrnod cyfan.

 

Pob Dydd Mercher – Gwirfoddoli gwaith coed

Dysgu neu wella eich sgiliau drwy wneud pethau gwreiddiol allan o bren sydd wedi cael ei achub o'r domen sbwriel. O 10yb i 4yh.

 

Pob Dydd Mercher – Gwirfoddoli cadwriaethol

Cyfle i gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth tymhorol, a threulio amser ar hanes naturiol ac arolygon bywyd gwyllt. O 10yb i 4yh

Pob Dydd Iau – Yr Ardd Fasnachol.

Mae eich angen ar yr ardd fasnachol! Dewch i ddysgu am bob agwedd o dyfu planhigion a llysiau. O 10yb i 4yh.

 

I'r brig

Digwyddiadau Cymdeithasol




Stondinau crefft ac adloniant tymhorol.
Cysylltwch â’r swyddfa erbyn 30 Tachwedd os ydych am gynnal stondin.

Digwyddiadau i Bawb

Dim angen cadw lle – dewch draw a mwynhewch. Agored i bawb. Am ddim - ond croesawir rhoddion.

Rhagfyr 13 Ffair Aeaf 11 – 4yh

I'r brig

Cyrsiau Cadwraeth

9.30yb - 4yh (oni nodir yn wahanol). Mae'n rhaid cadw lle.

Oni nodir yn wahanol, fe arweinir y cyrsiau cadwraeth gan Anita Daimond neu John Harold, gyda chyfraniad gan eraill lle'n berthnasol.

Cyrsiau Ecoleg

 

Rheoli cynefin ar gyfer adar tir fferm.                 5-6 Tachwedd

Mae'r cwrs yma'n edrych ar gamau syml ac ymarferol gall rheolwyr tir gweithredu i wella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau BAP (Cynllun Gweithredu Amrywiaeth) megis y llinos, melyn yr eithin, bras y gors, a golfan y coed. £90.

I'r brig

Cyrsiau Cadwraeth Ymarferol

Coedlannu a phlygu gwrychoedd.                        5 - 6 Rhagfyr

Cyflwyniad i'r technegau traddodiadol hyn ar gyfer rheoli coetir, cynnyrch defnyddiol a'u defnydd mewn rheolaeth cadwraeth. £90.

I'r brig

Cyrsiau Sgiliau Casglu Data

Arolwg Cynefin Cam 1

Cyflwyniad deuddydd i fethodoleg ac agweddau ymarferol ymgymryd ag arolygon Cam 1. Cwrs poblogaidd - archebwch le'n gynnar. £90.

 

12-13 Tachwedd 

3-4 Rhagfyr

I'r brig

Cyrsiau Garddio a Cadw Gwenyn ac Offer

10yb – 4 yh. (oni nodir yn wahanol). Mae'n rhaid cadw lle.

 

Tyfwch eich Bwyd eich Hun ym Moelyci      Dechrau 15 Medi

Cwrs 2 awr x 30 wythnos. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn ennill credyd Coleg Agored. Mae hwn yn gwrs a drefnir ar y cyd gan Foelyci a Choleg Menai. Cysylltwch â Moelyci am ragor o fanylion.

 

Tyfwch eich Bwyd eich Hun - Lefel Uwch    Dechrau 15 Medi

Cwrs 2 awr x 30 wythnos. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn ennill credyd Coleg Agored. Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl sydd â phrofiad sylweddol neu wedi cwblhau'r cwrs Tyfwch eich Bwyd eich hun. Cysylltwch â Moelyci am ragor o fanylion.

 

OCN Tyfwch eich Bwyd eich Hun     22 Medi ymlaen

22 Medi ymlaen OCN Tyfwch eich Bwyd eich Hun

 

Cynnal a Chadw Offer                                                7 Tachwedd

Dysgwch sut i ofalu am, cynnal a chadw, a hogi'ch offer. Defnyddiol i arddwyr a gweithwyr coed. Gyda Mike Bithell. £45.

 

Atgyweirio ac Adfer Offer                                        14 Tachwedd

Cyflwyniad i atgyweirio eich hoff offer gan ddefnyddio technegau gwaith coed traddodiadol e.e. gosod carn newydd ar fforch. Gyda Mike Bithell. £45.

I'r brig

Cyrsiau Crefft

10yb – 4yh. Mae'n rhaid cadw lle.

 

Gwneud Bag Ffelt                                                                              

Dewch i ddysgu sut i wneud bag ffelt gan ddefnyddio gwlân mewn amrywiaeth o liwiau naturiol o gnu heb ei liwio. Byddwn yn defnyddio'r dull sebon o wneud ffelt. Nid oes angen profiad blaenorol. £45

8 Tachwedd

I'r brig

Cyrsiau Basgedwaith

Cyflwyniad i Fasgedwaith

Awydd rhoi cynnig ar fasgedwaith? Dyma'ch cyfle. Dewch draw i ddysgu rhai o'r hanfodion wrth wneud eich basged gyntaf gyda Jackie Thomas. Cwrs deuddydd. £90.

21-22 Tachwedd

 

Gwneud Basged ar Gyfer Coed Tân

Cwrs addas i ddechreuwyr neu bobl sydd ag ychydig o brofiad o fasgedwaith. Byddwch yn gwneud basged ar gyfer coed tân gyda handlen yn rhan o'r cynllun. £90.

 28-29 Tachwedd

 

I'r brig


Diwrnod Agored 12 Gorffenaf 2009  
Ysgrifennwyd gan Web Admin  
Tuesday, 02 June 2009
Diwrnod Agored 12 Gorffenaf 2009

 
 

 
English | Cymraeg

Monday, 06 September 2010


Support Moelyci
Support Moelyci in making a donation:

Most Read
GWYBODAETH AM Y FFERM
Cywaithiau
Sut i gyrraedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci
Geological Wealth
Bioamrywiaeth

Archive
January, 2010
December, 2009
November, 2009
October, 2009
July, 2009
June, 2009
April, 2009
February, 2009
January, 2009
December, 2008

Hit Counter
501745 Ymwelwyr

Who's Online
Mae gennym2 o westeion ar-lein